Cartref > Disgyblion > Blwyddyn > Blwyddyn 10

Blwyddyn 10


Cyfnod Allweddol 4

Yng Nghyfnod Allweddol 4 mae pob disgybl yn dilyn cyrsiau mewn Cymraeg (Iaith a Llenyddiaeth); Saesneg (Iaith a Llenyddiaeth); Mathemateg a Mathemateg - Rhifedd; Gwyddoniaeth ar Dystysgrif Her (sydd yn rhan o’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru). Byddant hefyd yn derbyn gwersi Addysg Gorfforol yn wythnosol.

Bydd pob disgybl yn dewis 3 pwnc o’r colofnau dewisol ar ddiwedd Blwyddyn 9 er mwyn eu hastudio i safon TGAU/BTEC. Yn ychwanegol bydd disgyblion CA4 yn cael profiadau o Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cyngor Gyrfaoedd, Sgiliau astudio, Addysg Iechyd a Rhyw mewn cyfnodau arbennig sydd wedi ei gynllunio.

Ym Mlynyddoedd 10 ac 11 bydd tri grŵp dysgu yn y pynciau craidd a bydd y rhain wedi eu setio yn ôl eu gallu.  Fel arfer un grŵp dysgu sydd ar gyfer y pynciau dewisol ond os bydd niferoedd uchel yn dewis pwnc arbennig gwneir pob ymdrech i sicrhau grŵp ychwanegol pan fydd athro cymwys ar gael.

Bydd y disgyblion yn derbyn 4 gwers yr wythnos yn y Gymraeg, Saesneg a Mathemateg, 6 gwers Gwyddoniaeth, 2 wers Tystysgrif Her, 1 wers Addysg Gorfforol ac yna 3 gwers ymhob un o’r 3 pwnc dewisol.